Ymwadiad


Mae Menter Aberteifi yn ymdrechu i gynnal cywirdeb a dibynadwyedd y wefan hon; nid yw, fodd bynnag, yn rhoi unrhyw sicrwydd ynglŷn â chywirdeb, dibynadwyedd, cyflawnrwydd neu briodoldeb y wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y wefan hon at ba bynnag ddiben.
Ni fydd Menter Aberteifi, ei chyflogedigion, cyflenwyr a phartïon eraill sy’n rhan o’r gwaith o greu a chyflwyno’r wefan hon yn gyfrifol am unrhyw iawndal, colled neu anghyfleustra uniongyrchol, anuniongyrchol, arbennig neu ôl-ddilynol ddaw i fod o ddibynnu ar gynnwys y wefan hon neu fydd yn deillio o ddefnyddio’r wefan hon.
Nid yw Menter Aberteifi yn darparu gwasanaeth rheoli ansawdd mewn perthynas â chysylltau allanol ac nid yw’n gyfrifol am gynnwys y cyfryw wefannau cyswllt. Os bydd enw unrhyw drydydd parti yn cael ei gynnwys oddi mewn i’r tudalennau hyn, ni ddylid dehongli hynny fel cymeradwyaeth o gynnyrch a / neu wasanaethau’r parti hwnnw.

Ymddiheuriad

Mae Menter Aberteifi wedi ymrwymo i wella’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg gyda’r gymuned Gymraeg ei hiaith ac i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn cyhoeddiadau ac arwyddion a nodwyd. Rydym wedi mabwysiadu Polisi Iaith Gymraeg i’n cynorthwyo i gyflawni’r nod hwn. Fodd bynnag, cyfrifoldeb trefnwyr y digwyddiadau unigol yw’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys am eu digwyddiad ac nid ydynt wedi darparu cyfieithiad Cymraeg ar gyfer y digwyddiad dan sylw, ar yr achlysur hwn. Ymddiheurwn am unrhyw anhwylustod y gall hyn ei achosi.